Cymraeg

Saif bwthyn gwledig Gwynfe yn ganolog i bentre Pentrecwrt yng ngogledd orllewin Sir Gaerfyrddin,nepell o dre Landysul ar gororau un o afonydd mwya' adnabyddus Cymru sef afon Teifi.
Mae'r afon rhwng Pentrecwrt a Llandysul ers hir wedi bod yn gartre' i ymarferwyr sgiliau canw a kayak ac yn enwog am ei dyfroedd chwyrndrobwll gwynddwr, ymhellach yn ei hynt wedi Pont Alltcafan gwelir newid wedd a chyfle unigryw i bysgotwyr yr eog a'r brithyll i ddilyn eu hamdden.
O fewn byrdaith o Gwynfe gellir cyrraedd arfordir Bae Ceredigion a'i chynifer o draethau a cheiau hudol yn ogystal a golygfeydd bythgofiadwy.I'r de-orllewin, yr un mor rhwydd, gellir tramwy Parc Genedlaethol Sir Benfro a Mynyddoedd Preseli yn eu gogoniant mawreddol.
****************
Cysgir pedwar yn gyfforddus yn y ddwy ystafell wely yng Ngwynfe a gyda'i holl gyfleusterau wedi llwyr adnewyddu yn ddiweddar rhoir sail yma i gyfle arbennig i ymlacio a dianc o bwysau bywyd cyfredol y byd ty fas i'r lloches fach hon.
****************

|